
Lles
Natur
Caerffili
Nature Wellbeing
Caerphilly
croeso - welcome
Mae cysylltu â natur a bod yn egnïol yn yr awyr agored yn gwella iechyd a lles pobl.
Mae'r buddion a'r canlyniadau cadarnhaol yn cynnwys rheoli pwysau, atal afiechydon cronig fel diabetes a gorbwysedd, a gwella iechyd meddwl trwy leihau straen a phryder.
Gall gweithgareddau awyr agored cymunedol hefyd hyrwyddo a chreu cysylltiadau cymdeithasol ag eraill eto gan gefnogi a gwella ein lles.
Yn ogystal ag annog pobl i ddefnyddio eu lleoedd gwyrdd er budd llesiant, mae rhwydwaith lles natur o bartneriaid yn cydweithredu â meddygon teulu a'r gwasanaeth iechyd i gefnogi iechyd a lles yn ein cymunedau trwy raglen beilot 'rhagnodi lles natur'.
